Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir etc.) (Diwygio) (Cymru) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae paragraff 1(12) o Atodlen newydd 2A yn caniatáu i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’n ôl gyfarwyddyd presennol a wnaed ganddo o dan erthygl 4(1) o’r Gorchymyn Datblygu Cyffredinol a Ganiateir.

Mae paragraff 1(14) yn ei gwneud yn ofynnol i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ddilyn yr un broses a’r un gofynion wrth dynnu’n ôl gyfarwyddyd o dan erthygl 4(1) â phan fo cyfarwyddyd o dan erthygl 4 yn cael ei wneud. Y rheswm dros hyn yw bod Llywodraeth Cymru am sicrhau bod unrhyw unigolyn y mae’r cyfarwyddyd dilynol yn effeithio arno yn cael ei hysbysu’n briodol; bod yr hysbysiad yn disgrifio’r datblygiad a’r ardal yr effeithir arnynt yn gywir ac yn bwysig y caniateir y cyfnod o amser llawn a chywir i gyflwyno sylwadau.

Fodd bynnag, derbynnir y gallai’r geiriad ym mharagraff 1(4)(c) fod yn gliriach. Yn ymarferol, byddem yn disgwyl i unrhyw hysbysiad nodi’r pwerau y gwnaed y cyfarwyddyd oddi tanynt, yn ogystal â nodi’r cyfarwyddyd erthygl 4 presennol a oedd yn cael ei dynnu’n ôl. Byddwn yn achub ar y cyfle i egluro hyn cyn gynted â phosibl.

 

Pwynt Craffu Technegol 2:

Nodir a derbynnir y pwynt adrodd hwn. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a ellir cywiro hyn drwy gyfrwng slip cywiro.